PYSGOTA
Lleolir Cronfa Ddŵr Llandegfedd, sy'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ym mhrydferthwch bryniau de-ddwyrain Cymru. Mae cronfa ddŵr Llandegfedd yn cael ei stocio'n dda ac mae modd pysgota am frithyll seilthliw a brithyll brown o'r lan ac o gychod. Mae'n lleoliad poblogaidd i gynnal cystadlaethau pysgota hefyd. Mae'r gronfa yn caniatáu ar gyfer amrywiaeth o ddulliau o bysgota â phlu, o bysgota agored ag abwyd i lech-bysgota mwy ymestynnol â nymffau ac abwyd sych.
Mae'r gronfa'n stocio sawl gwahanol fath o bysgod - brithyll seithliw a nifer fechan o frithyll brown gwyllt, a nifer fawr o bysgod bras, gan gynnwys merfogiaid, gwrachennod, brwyniaid, llysywod a phenhwyaid. Mae'r Cronfa Llandegfedd yn adnabyddus am ei dalfeydd penhwyaid mawr ac mae hi'n dal i ddal y record am ddalfa Penhwyad mwyaf Prydain, sef 46 pwys 13 owns!
Pryfed/Dulliau
Mae'r rhain yn dibynnu ar y tymor a'r tywydd. Mae'r tymor cynnar fel rheol yn gofyn am bysgota â llinellau sy'n suddo'n gyflym â phlymiau byr a Boobies neu abwyd, neu i'r pysgotwyr traddodiadol, gall llinell arnofiol â phlwm hir a nymff ar bwysau fachu llawn cymaint. Y mathau mwyaf llwyddiannus o blu yn y tymor cynnar yw mursennod, Montana, Viva, Cats Whisker amrywiaeth o Boobies a Blobs, Hares Ear, Pheasant Tail a byswyr. Mae'r rhain yn cael eu pysgota hefyd trwy gydol y tymor ar amrywiol ddyfnderoedd, ond wrth i'r dŵr gynhesu a'r pryfed gynyddu, mae llawer o bysgotwyr yn troi at linellau canolradd ac arnofiol â thimau o nymffau neu bryfed sych er mwyn targedu'r pysgod sy'n codi. Mae'r Hoppers a'r daddies fel arfer yn farwol pan fo'r pysgod yn codi'n rhydd, ond o dan amodau mwy anodd, mae'n bosibl y bydd angen defnyddio plu llai a sych yn unigol â phlymwyr hir ac ysgafn. Misoedd Gorffennaf ac Awst yw'r misoedd anoddaf ar gyfer pysgota â phlu yn y gronfa am fod y pysgod yn cilio i'r dŵr dwfn er mwyn osgoi tymheredd uchel y dŵr ar yr wyneb. Ond mae rhai diwrnodau'n gallu bod yn fendigedig ar gyfer pysgota â phlu sych gyda'r pysgod cyn cymryd y plu sych yn ddall. Mae canol a diwedd y tymor yn adnabyddus am brysurdeb y pysgod ar y wyneb ac o dan y wyneb gyda chlytiau da o bysgod yn codi ar dimau o fyswyr neu Ddiawliaid Bach ychydig o dan yr wyneb ar linellau arnofiol, neu ychydig droedfeddi i lawr gyda llinellau canolradd araf. Mae llawer o bysgod da yn cael eu bachu ar blu sych a chodwyr yr adeg yma o'r tymor hefyd, a'r Daddy yw ffefryn mawr llawer ohonynt. Mae'r tymor hwyr yn gallu cynhyrchu pysgod mawr hefyd, a hyd yn oed ambell i frithyll brown ar Muddlers neu Boobies wedi eu taenu ar draws y wyneb yn agos at y lan, yn enwedig os oes awel braf. Mae silod mân y pysgod bras yn aml yn cael eu gwthio i'r ffiniau gan y brithyll a'r draenogiaid i fwydo, ac mae bwrw patrymau silod mân arnofiol ar y rhain wrth eu pysgota'n statig neu trwy blycio yn gallu cynhyrchu canlyniadau annisgwyl.
Lleoliad
Mae hyn yn dibynnu'n helaeth ar gyfeiriad a chryfder y gwynt. Mae'n well gan lawer o bysgotwyr y lan bysgota o'r lan ddwyreiniol, a bae Bill Smith, am fod dyfnder y dŵr yn amrywio yn yr ardaloedd hyn, ac am eu bod yn gymharol hawdd eu cyrraedd ar gyfer eu holl anghenion pysgota. Mae'n well gan eraill y lan Ogleddol sy'n fwy tawel a bas. Am fod y gronfa'n cael ei stocio'n wythnosol mae yna stoc dda o bysgod bob amser, ac mae'r rhain i'w cael yn aml lle mae'r gwynt yn chwythu i'r lan. Mae'r pysgod brodorol yn tueddu i fwydo yn nannedd y gwynt, ac maent yn aml yn cronni yn y mannau mwy cysgodol gan fwydo ar y pryfed sy'n cael eu chwythu i'r dŵr o'r coed cyfagos ac ati.
Mae'r pysgotwyr o gychod yn tueddu i ffafrio ardaloedd tebyg, ond mae'r llif ar hyd banc y dwyrain neu'r lan ogleddol yn weddol gynhyrchiol fel rheol. Mae'r llif o'r lan ogleddol i bwynt Pettingale (neu i'r ffordd arall yn dibynnu ar y gwynt) y naill ochr i'r llall i'r cewyll pysgod yn boblogaidd dros ben. Ni chaniateir pysgota o fewn y bwiau marcio o gwmpas y cewyll oherwydd y rhaffau arnofiol a'r rhwydi o dan wyneb y dŵr. Nid oes unrhyw bysgod yn cael ei magu ar y safle erbyn hyn, ac rydyn ni'n aros i gael gwared ar y cewyll. Am nad oes unrhyw bysgod yn y cewyll, nid yw'r pysgod yn nofio o dan y cewyll mwyach gan ddisgwyl i fwyd syrthio o dan y rhwydi! O fis Mai ymlaen, gall llif i lawr canol y gronfa ddarparu nifer dda o bysgod, ac mae'r rhain yn dueddol o fod yn bysgod preswyl, am fod yn y pysgod stoc yn tueddu i fynd am y cyrion.
Os oes unrhyw amheuaeth, gofynnwch i'r Gofalwyr ble mae pobl wedi bod yn llwyddiannus wrth ddal pysgod yn ddiweddar, a byddan nhw'n eich pwyntio i'r cyfeiriad iawn bob tro. Mater i chi yw dewis dilyn eu cyngor neu ddewis pysgota mewn ardal arall.
Trwyddedau
Ar gael o swyddfa'r Gofalwyr ar y safle
Cyfleusterau i Bobl Anabl
Mae mynediad hwylus i'r tai bach wrth y pontynau ac ym maes parcio'r gogledd rhif 1, ac mae'r rhain yn addas i bobl anabl. Mae cwch arbennig ar gael i bysgotwyr sy'n defnyddio cadair olwyn ei fenthyg am ddim. Nid yw'r glannau'n addas iawn i bobl ag anableddau oherwydd lefelau newidiol y dŵr, a'r pellter o'r meysydd parcio.
Y Tymor
1 Maw - 31 Hyd (seithliw)
20 Maw - 17 Hyd (brown)
Amserau Pysgota Dyddiol:
Pysgota o'r lan o 8.00am
Pysgota o gychod o 9.00am
Nodir yr amserau cau ar y safle.
Pysgota gyda Dŵr Cymru
Mae Dŵr Cymru'n berchen ar 91 o gronfeydd, sy'n amrywio o ran eu maint o 2 erw i 1,026 erw, ac mae'n rheoli'r grŵp mwyaf o bysgodfeydd brithyll dŵr llonydd ym Mhrydain. Mae bron pob un o'r prif gronfeydd dŵr yn agored i bysgotwyr. Mae rhai o'n pysgodfeydd yn cael eu prydlesu neu eu trwyddedu ar gyfer clybiau a chymdeithasau pysgota; mae angen trwydded ar wahân ar gyfer y pysgodfeydd hynny.
Cewch lawrlwytho ein Canlllaw i Bysgota yng Nghronfeydd Cymru yma