Now that the firebreak lockdown has ended, Llandegfedd Lake has reopened for visitors who live in Wales. Our neighbours across the border in England are bound to their own lockdown restrictions and we look forward to welcoming them back when we’re able to.

 

Nawr bod y cyfnod atal byr wedi dod i ben, mae Llandegfedd Lake wedi ailagor ar gyfer ymwelwyr sy'n byw yng Nghymru. Mae ein cymdogion dros y ffin yn Lloegr yn rhwym i'w cyfyngiadau cloi eu hunain ac edrychwn ymlaen at eu croesawu yn ôl yn fuan.

Canolfannau Dwr Cymru

Hamdden gyda Dŵr Cymru Welsh Water

Mae Dŵr Cymru’n berchen ar 91 o gronfeydd dŵr, sy’n amrywio mewn maint o 2 erw i 1,026, ac mae’n debyg bod y grŵp mwyaf un o bysgodfeydd brithyll dŵr llonydd ym Mhrydain o dan reolaeth y cwmni. Yn ogystal â chynnig pysgota, mae gan lawer o’r safleoedd amrywiaeth eang o gyfleusterau hamdden ar y dŵr ac ar y glannau.

Mae chwaraeon dŵr yn arbennig o boblogaidd, gan gynnwys hwylio, canŵio, hwylfyrddio a gweithgareddau tanddwr. Gallwch logi offer a chael hyfforddiant ar rai o’r safleoedd. Os byddai’n well gennych aros ar dir sych: gallwch fynd am dro ar hyd un o’r nifer o lwybrau sydd wedi eu marcio, gwylio adar yn y cuddfannau gwylio adar, neu fanteisio ar holl gyfleusterau’r Ganolfan Ymwelwyr. 

Os ydych chi’n bwriadu teithio, mae safleoedd Dŵr Cymru dan reolaeth ECARE ledled y wlad. Mae ymweliadau addysg ar gael i ysgolion trwy drefniant ymlaen llaw. 

Elan Valley Llyn Brenig Llys y Frân